Annwyl Gyfaill,

 

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno i gynnal gwaith ar fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 

Mae’r Pwyllgor yn awyddus iawn i glywed eich barn ar gwmpas yr ymchwiliad hwn. Hoffai’r Aelodau wybod beth yw eich barn ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith hwn, a pha agweddau ar fynediad at dechnolegau meddygol y dylent ganolbwyntio arnynt. Nodwch, os gwelwch yn dda nad ydy’r Pwyllgor yn bwriadu ystyried mynediad at feddiginiaethau fel rhan o’r ymchwiliad, dim ond technolegau meddygol.

 

Byddai’r Pwyllgor hefyd yn croesawu cael clywed eich sylwadau ar:

 

-        y cyfraddau derbyn technoleg feddygol yng Nghymru, a’r rhwystrau posibl sydd i sicrhau bod triniaethau newydd effeithiol (nad ydynt yn defnyddio cyffuriau) yn fwy hygyrch i gleifion;

 

-        y prosesau ar gyfer gwerthuso technolegau meddygol newydd ar hyn o bryd;

 

-        y broses o wneud penderfyniadau ynghylch ariannu technolegau meddygol/triniaethau newydd yn y GIG yng Nghymru.

 

Dylech anfon eich sylwadau erbyn dydd Gwener, 28 Medi 2012. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried sylwadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Noder mai cyfle i gyflwyno sylwadau ar gwmpas yr ymchwiliad yn unig yw hwn, nid i gyflwyno eich tystiolaeth ysgrifenedig. Cyhoeddir galwad am dystiolaeth ysgrifenedig fwy manwl yn ddiweddarach eleni, pan fydd yr Aelodau wedi cytuno ar gwmpas yr ymchwiliad. Mae’n debygol y bydd y Pwyllgor yn gofyn am dystiolaeth lafar ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn ystod y Gwanwyn 2013.

 

Cysylltwch â mi os byddwch angen rhagor o wybodaeth, drwy ddefnyddio’r manylion isod.

 

Cofion gorau,

 

Llinos